barbach
diodydd

croeso i dafarn y plu
Tafarn y Plu . Llanystumdwy . Gwynedd . LL52 0SH Ffôn 01766 523276 post@tafarnyplu.com

Hanes y dafarn
Adeiladwyd Tafarn y Plu oddeutu 200 mlynedd yn ôl. Bellach dyma’r unig
dafarn sy’n weddill o bump fu unwaith yn y pentref.
Y PLU AR HYD YR OESOEDD:

Uchaf: Y tafarnwr John Ellis Hughes a'i chwaer Hannah Mary tua 1892
yplu
yplu


  Croeso i Dafarn Y Plu!
 

Mwynhewch groeso traddodiadol Cymraeg a Chymreig yn y dafarn restredig Gradd II hon sydd wedi ei rhestru yn y Good Pub Guide 2007, 2008, 2009, ac eto yn 2010. Saif y dafarn, sydd yn un o 100 yn unig drwy Gymru i'w hystyried yn Dafarn Dreftadaeth gan CAMRA a'i chynnwys yn eu llyfr Real Heritage Pubs of Wales, gyferbyn â chartref llencyndod David Lloyd George ym mhentref prydferth Llanystumdwy, ger yr A497 rhwng Porthmadog a Phwllheli.

Mae digonedd o le i barcio am ddim yn y maes parcio cyhoeddus sydd ond 100 llath oddi wrthym, tra bod Bws Rhif 3 rhwng Pwllheli a Phorthmadog yn mynd heibio ein drws ffynt hyd at deirgwaith yr awr ar adegau prysur.

Milltir yn unig i ffwrdd mae gorsaf drên Cricieth ar Reilffordd y Cambrian. Am wybodaeth pellach yn Gymraeg neu'n Saesneg ynglyn a theithio yng Nghymru, ac amserlenni, cysylltwch efo Traveline Cymru ar 0871 2002233, neu ymwelwch â'r wefan www.traveline-cymru.org.uk.
Ac os ydych ar droed, cofiwch bod Llwybr Arfordir Llŷn yn pasio o fewn 200 llath i ni ar ei ffordd drwy Llanystumdwy. Cewch rhagor o fanylion am atyniadau'r pentref yn www.llanystumdwy.com
Mae croeso i blant yn Nhafarn y Plu neu yn yr ardd, efo bwydlen arbennig ar eu cyfer. Ond cofiwch ein bod yn glynu at y gyfraith ynglyn a gwerthu diodydd meddwol i rai o dan 18, a byddwn yn gofyn am dystiolaeth oed gan unrhyw un sy'n edrych yn iau na 21.

Mae croeso hefyd i chi ddod a'ch ci efo chi i'r Bar Bach yn unig, o dan reolaeth ac ar dennyn, ar wahan i nosweithiau Gwener, ar y dealltwriaeth nad ydy o'n camymddwyn ac yn gallu ymdopi efo gweld Jac Stumllyn ein cath yn cerdded yn ffroenuchel drwy'r lle ar unrhyw adeg. Fel arall, byddwn yn falch o ddarparu powlenaid o ddwr i'ch cyfaill pedair coes yn y cowt.

Cawsom ein anrhydeddu efo'r wobr am y busnes dwyieithog gorau yng Ngwobrau Busnes Gwynedd ym mis Mai 2009, a'n gosod ar y rhestr fer yn adran y busnes twristiaeth gorau.
Gwobrwywyd ni efo'r wobr am y Newydd Ddyfodiaid Gorau drwy Gymru yng Ngwobrau Tafarnau Gorau y Morning Advertiser 2006.
Dewiswch bryd o'n bwydlen helaeth wrth lymeitian un o'n dewis o gwrw, gwinoedd a gwirodydd Cymreig a rhyngwladol. Cofiwch eich bod yn bwyta ym Mwyty Cynnyrch Lleol y Flwyddyn, fel y cafon ein gwobrwyo yng Ngwobrau Blas a Dawn Gwynedd 2010.
Byddwch wedyn yn barod i ymweld ag Amgueddfa Lloyd George ar draws y ffordd neu ei fedd gerllaw, neu i fwynhau un o'r toreth o deithiau cerdded hawdd i ymdopi a nhw - gan gynnwys yr enwog Lôn Goed - sydd yn britho'r ardal. Byddwch yn eich helfen ym mro addfwyn Eifionydd ac yng nghwmni ei phobol.

  ••••Safle gan SMALA : www.smala.net 22007-11 © www.tafarnyplu.com
......