Tafarn y Plu . Llanystumdwy . Gwynedd . LL52 0SH Ffôn 01766 523276 post@tafarnyplu.com
AMSEROEDD AGOR Y GAEAF
Sul a Llun WEDI CAU
Mawrth 7.30yh
Mercher WEDI CAU
Iau-Sadwrn 6yh
Amseroedd eraill drwy drefniant
BWYTY CYNNYRCH LLEOL Y FLWYDDYN
Gwobrau Blas a Dawn Gwynedd 2011
Digwyddiadau Tafarn Y Plu
Cynghrair Cwis Pwllheli a'r Cylch
Tach 22: Tafarn y Plu v Nanhoron
Tach 29: Nomads v Tafarn y Plu
Rhag 6: Ty Newydd v Tafarn y Plu
Rhag 13: Tafarn y Plu v Mitre
Cynghrair Dartiau Porthmadog a'r Cylch
Tach 24: Cwpan Arianwen (yn y Griffin)
Rhag 1: Stesion v Tafarn y Plu
Rhag 8: Tafarn y Plu v Saracens
Rhag 12: Cwpan Jack Gibbons, rownd wyth olaf
Rhag 15: Clwb Golff v Tafarn y Plu
Rhag 19: Cwpan y Capteiniaid (yn Nhafarn y Plu)
Rygbi Rhyngwladol
Sadwrn, Rhagfyr 3ydd. Cymru v Awstralia. Drysau'n agor am 2.15yp. Gan nad ydyn wedi chwarae yn erbyn y gelyn mewn melyn ers mwy na mis, dyma gyfle (prin?) arall i roi taw ar eu cegau. Ar ben hynny, mi fydd yr enillwyr yn mynd a Thlws James Bevan efo nhw.
Gwersi Cymraeg
Mae'n dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion, a gynhelir am 8 o'r gloch bob nos Iau, bellach yn llawn.
Nosweithiau Pedwar Ban
Byddwn yn ail-ddechrau ein nosweithiau thema yn fuan, pryd y byddwn cynnig bwyd, cerdd a hwyl wedi ei gysylltu efo gwledydd arbennig o bedwar ban byd. Cadwch lygad allan am fanylion pellach.
Llyfrau
Mae arweinlyfr Ian i'w hoff dafarnau yn y parthau hyn, Favourite Watering Holes, ar werth tu ol i'r bar am 7.50 punt. Cewch ei lofnodi am ddim, dim ond i chi brynu deg peint! Hefyd mae arweinlyfr CAMRA i Dafarnau Treftadaeth Cymru, lle rydan ni'n un o'r cant a enwir, ar werth yma am 6.99 punt.