barbach
diodydd

diodydd tafarn y plu
Tafarn y Plu . Llanystumdwy . Gwynedd . LL52 0SH Ffôn 01766 523276 post@tafarnyplu.com

Croeso cynnes
Hawliwch gerdyn mantais sy'n rhoi gostyngiad o 5% i'n cwsmeriaid selog am fwyd a diod, ond gan eithrio llyfrau, cofroddion a chwrw a seidr potel. Casglwch bum nod ar bum dyddiad gwahanol eleni i gael eich cerdyn.
yplu

  Diodydd Y Plu
 

Ein bwriad ydy cynnig blas o Gymru drwy fwydlen, diodlen ac awyrgylch. Mae’n cwrw go iawn bron yn ddi-eithriad yn cael ei fragu yng Nghymru, ran amlaf gan Fragdy Conwy, Bragdy'r Gogarth, Felinfoel neu Brains. Byddwn hefyd o bryd i'w gilydd yn cadw cwrw Evan Evans o Landeilo neu o gwmni Breconshire Brewery yn Aberhonddu. A beth am roi cynnig ar Gwrw Lloyd George, caiff ei fragu'n arbennig inni yng Nghymru.
Rydym hefyd yn gwerthu cwrw mawr ei glod Bragdy'r Mŵs Piws o Borthmadog.
Yn y cyfamser mae dewis eang o gwrw Cymreig wastad ar gael yn ogystal ag enwau rhyngwladol fel Guinness a Becks. Rydym hefyd yn cadw seidr Cymreig, cynnyrch Gwynt y Ddraig o'r botel, neu gynnyrch fferm go iawn gan amrywiol gynhyrchwyr bychain o blith aelodau Cymdeithas Seidr a Pherai Cymru.

Gardd Gwrw

Cynigiwn wirodydd Cymreig fel wisgi Penderyn, fodca a jin Aberhonddu, a dewis o wirodydd arbenigol Cymru ochr yn ochr � dewis helaeth o ddiodydd o wledydd eraill. Os oes blys arnoch am Bacardi, wisgi Albanaidd neu Wyddelig, neu joch o fourbon enwog Evan Williams - mae’r rheiny ganddom hefyd. Ac mae’n rhestr win - gan gynnwys gwinoedd Cymreig fel Ffynnon Las o Aberaeron - yn mynd a chi ar wibdaith gynhwysfawr drwy wledydd cynhyrchu gwin enwocaf y ddaear.


  •••Safle gan SMALA : www.smala.net 22007-11 © www.tafarnyplu.com